Projects

Helpu Cymunedau i gael Bwyd Da

Os ydych chi’n cael trafferth cael neu fforddio bwyd da, mae nifer o fentrau cymunedol a allai eich helpu.

Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS)

Mae gan bawb yr hawl i gael bwyd da, ond os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin ac yn cael trafferth cael neu fforddio bwyd, mae gwefan CAVS yn rhestru nifer o systemau sydd ar gael i’ch helpu: Cymunedau Cysylltiedig Sir Gâr / Connected Communities Sir Gâr (padlet.com)

Foothold Cymru

Mae ‘Croeso Cynnes’ Foothold Cymru yn fan lle gall pawb gadw’n gynnes, cadw mewn cysylltiad, cael cyngor a mwynhau cinio iach. Mae’n ddelfrydol i’r sawl sydd am greu cysylltiadau newydd, lleihau biliau ynni, ac ymlacio mewn amgylchedd croesawgar. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cegin Hedyn

Ffreutur a drefnir gan wirfoddolwyr ag ymrwymiad angerddol i wneud gwahaniaeth. Mae athroniaeth “talu’r hyn y gallwch” yn sicrhau bod pawb yn gallu cael prydau maethlon, blasus, beth bynnag fo’i sefyllfa ariannol.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma..

Newyddion diweddaraf

Darllenwch y newyddion a blogs diweddaraf gan Bwyd Sir Gâr Food.

  • Grantiau Bach ar gyfer Gweithgareddau Bwyd

    Grantiau Bach ar gyfer Gweithgareddau Bwyd

    Mae Bwyd Sir Gâr Food yn cynnig chwe grant o £2,000 i ariannu gweithgareddau sy’n anelu at ddileu anghydraddoldeb, hyrwyddo cydraddoldeb, a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl. Mae’r grantiau ar gael i fudiadau cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin, ac mae’r gronfa hon wedi’i hanelu’n benodol at alluogi a chynyddu cyfranogiad…

    Darllen mwy

  • Ffrwyth ein Llafur

    Ffrwyth ein Llafur

    Yn mis Rhagfyr 2024, cynhaliwyd digwyddiad yn yr Egin, Caerfyrddin i ddathlu gwaith Bwyd Sir Gâr ar draws y flwyddyn. Dan arweiniad Adam Jones (Adam yn yr Ardd), cafwyd diwrnod llawn o drafodaethau, cyflwyniadau a sgyrsiau diddorol ynglyn â’r system fwyd ar draws y sir. Meddai Augusta Lewis, Cydlynydd Bwyd…

    Darllen mwy

  • Gweini ysgewyll lleol ar Ddydd Nadolig yng Nghartrefi Gofal Sir Gaerfyrddin

    Gweini ysgewyll lleol ar Ddydd Nadolig yng Nghartrefi Gofal Sir Gaerfyrddin

    Bydd ysgewyll a gafodd eu tyfu ar fferm yn Llanarthne yn cael eu danfon i holl gartrefi gofal Cyngor Sir Caerfyrddin er mwyn i’r preswylwyr eu mwynhau ar Ddydd Nadolig. Cafodd yr ysgewyll eu tyfu’n organig, eu cynaeafu a’u prosesu ar Fferm Bremenda Isaf Cyngor Sir Caerfyrddin fel rhan o…

    Darllen mwy

Welsh Veg in Schools

We’re working with Food Sense Wales to develop new local agro-ecological supply chains into schools – so our children can enjoy locally grown fresh vegetables at lunchtimes.