Newyddion

Grantiau Bach ar gyfer Gweithgareddau Bwyd
Mae Bwyd Sir Gâr Food yn cynnig chwe grant o £2,000 i ariannu gweithgareddau sy’n anelu at ddileu anghydraddoldeb, hyrwyddo cydraddoldeb, a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl. Mae’r grantiau ar gael i fudiadau cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin, ac mae’r gronfa hon wedi’i hanelu’n benodol at alluogi a chynyddu cyfranogiad…

Ffrwyth ein Llafur
Yn mis Rhagfyr 2024, cynhaliwyd digwyddiad yn yr Egin, Caerfyrddin i ddathlu gwaith Bwyd Sir Gâr ar draws y flwyddyn. Dan arweiniad Adam Jones (Adam yn yr Ardd), cafwyd diwrnod llawn o drafodaethau, cyflwyniadau a sgyrsiau diddorol ynglyn â’r system fwyd ar draws y sir. Meddai Augusta Lewis, Cydlynydd Bwyd…

Gweini ysgewyll lleol ar Ddydd Nadolig yng Nghartrefi Gofal Sir Gaerfyrddin
Bydd ysgewyll a gafodd eu tyfu ar fferm yn Llanarthne yn cael eu danfon i holl gartrefi gofal Cyngor Sir Caerfyrddin er mwyn i’r preswylwyr eu mwynhau ar Ddydd Nadolig. Cafodd yr ysgewyll eu tyfu’n organig, eu cynaeafu a’u prosesu ar Fferm Bremenda Isaf Cyngor Sir Caerfyrddin fel rhan o…

Fferm Bremenda Isaf yn cyflenwi llysiau lleol i Ysgol Bro Dinefwr
Mae prosiect ar y gweill sy’n gweld llysiau o ffarm sirol yn Sir Gaerfyrddin yn bwydo plant mewn ysgol uwchradd gyfagos. Bydd llysiau lleol – wedi’u tyfu’n organig, eu cynaeafu a’u prosesu ar fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne – yn cael eu cludo i Ysgol Bro Dinefwr a’u gweini i…

Taith astudio i Abbey Home Farm, Cirencester
Yn galw ar dyfwyr a ffermwyr Sir Gaerfyrddin sydd â diddordeb mewn: sefydlu a rhedeg mentrau wedi pentyru ar y tir; rheoli plâu integredig ac agroecoleg. Mae gan Bwyd Sir Gâr wyth o leoedd wedi’u hariannu’n llawn ar daith astudio i Abbey Home Farm, ar Ddydd Mercher yr 2il o Hydref.

Lansio gwefan Bwyd Sir Gâr Food
Heddiw, caiff gwefan Bwyd Sir Gâr Food ei lansio – llwyfan newydd a fydd yn helpu i rannu gwaith gwych partneriaeth fwyd Sir Gaerfyrddin. Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cael eu lansio yn ogystal â brand newydd sbon. Bwyd Sir Gâr Food yw partneriaeth fwyd lleol Sir Gaerfyrddin a’i…

Ffermio yn unol â Natur
Ffarm yw tir Bremenda Isaf ers dechrau ein cofnodion hanesyddol, ond dyw hynny ddim wedi ei rhwystro rhag bod yn gartref i bopeth o ddyfrgwn i fwncathod, ac o gen (sef ‘lichen’) i bathewod (‘dormice’). Mae ffermio a natur wedi cyd-esblygu yng Nghymru dros gyfnod o sawl mileniwm, ac mae’r…

Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion
Mae Bwyd Sir Gâr Food yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion – menter a gydlynir gan Synnwyr Bwyd Cymru sy’n anelu at gynnwys mwy o lysiau organig wedi’u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru. Gan…

Cymorth Cyswllt Ffermio yn helpu mentr systemau bwyd i dreialu cynhyrchu
Mae menter datblygu systemau bwyd arloesol yn Sir Gaerfyrddin yn ymuno â Cyswllt Ffermio i ddysgu sut y gellir tyfu gwahanol fathau o godlysiau a grawn yn y sir a’u prosesu i’w bwyta’n lleol. Fel rhan o brosiect fferm ffocws Cyswllt Ffermio, mae technegau cynhyrchu codlysiau yn cael eu treialu…

Dathlu cyflawniadau Pys Plîs yng Nghymru
Fis Tachwedd, cynhaliodd Synnwyr Bwyd Cymru Cynhadledd Lysiau yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin i ddathlu gwaith a chyflawniadau menter Pys Plîs yng Nghymru. Sefydlwyd y fenter Pys Plîs yn 2019, a’i chenhadaeth oedd ei gwneud hi’n haws i bawb yn y DU fwyta mwy o lysiau. Drwy gydol y rhaglen…

Cymru Can
Mae Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yr wythnos hon wedi nodi ei flaenoriaethau yn Cymru Can – strategaeth newydd ar gyfer 2023-2030 sy’n amlinellu ei weledigaeth hirdymor a’i bwrpas. Gyda bwyd yn rhan annatod o gyflawni nodau llesiant Cymru, mae Bwyd Sir Gâr Food wrth ei fodd i weld…

Sir Gaerfyrddin yn dathlu blas ar lwyddiant
Ym mis Rhagfyr 2023, dyfarnwyd gwobr fawreddog statws Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy i Sir Gaerfyrddin i gydnabod ei hymrwymiad i ddatblygu system fwyd lewyrchus, gynaliadwy, gynhwysol a chydnerth ledled y sir. Mae Dyfarniad Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn ddyfarniadau cenedlaethol, seiliedig ar dystiolaeth, sy’n dathlu siroedd, trefi neu ddinasoedd yn defnyddio…