Yn ystod Gwanwyn 2024, cafodd Synnwyr Bwyd Cymru arian ychwanegol gan Pontio’r Bwlch – rhaglen a arweinir gan Sustain, Growing Communities ac Elusen Alexandra Rose – i ehangu’r gwaith ymhellach ac i greu rhwydwaith ehangach byth o arbenigedd a chymorth. Bydd y cam hwn o ymchwil gweithredol yn gweithio gyda mwy o dyfwyr bwyd ac awdurdodau lleol; yn ymchwilio sut i bontio’r bwlch rhwng costau cynnyrch confensiynol a llysiau wedi’u tyfu’n gynaliadwy yng Nghymru; a phrofi sawl dull i ganfod sut beth yw ‘cynllun buddsoddi cynaliadwy’. Y nod yw datblygu model y gellir ei ymestyn ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Drwy gefnogi ffermio organig amaeth-ecolegol, mae’r prosiect hwn yn creu ffrwd incwm newydd neu allweddol amgen i dyfwyr bwyd ac i ffermwyr, yn ogystal â chreu cyfleoedd i blant gysylltu â natur a ffermio drwy ymweld â thyfwyr bwyd lleol.
Food Sense Wales is already researching future funding streams to develop this work beyond March 2025 to include more growers, local authorities and wholesalers. If you’re interested in getting involved with the Welsh Veg in Schools project, you can contact Food Sense Wales by emailing [email protected]
Mae Synnwyr Bwyd Cymru eisoes yn chwilio am ffrydiau cyllido ar gyfer y dyfodol i allu datblygu’r gwaith hwn ar ôl mis Mawrth 2025 ac i gynnwys mwy o dyfwyr bwyd, awdurdodau lleol a chyfanwerthwyr. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru, gallwch gysylltu â Synnwyr Bwyd Cymru drwy e-bostio [email protected]
Gallwch ddarllen mwy am y prosect yma a gallwch hefyd gwylio fideo sy’n esbonio mwy isod:
Newyddion diweddaraf
Darllenwch y newyddion a blogs diweddaraf gan Bwyd Sir Gâr Food.
-
Grantiau Bach ar gyfer Gweithgareddau Bwyd
Mae Bwyd Sir Gâr Food yn cynnig chwe grant o £2,000 i ariannu gweithgareddau sy’n anelu at ddileu anghydraddoldeb, hyrwyddo cydraddoldeb, a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl. Mae’r grantiau ar gael i fudiadau cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin, ac mae’r gronfa hon wedi’i hanelu’n benodol at alluogi a chynyddu cyfranogiad…
-
Ffrwyth ein Llafur
Yn mis Rhagfyr 2024, cynhaliwyd digwyddiad yn yr Egin, Caerfyrddin i ddathlu gwaith Bwyd Sir Gâr ar draws y flwyddyn. Dan arweiniad Adam Jones (Adam yn yr Ardd), cafwyd diwrnod llawn o drafodaethau, cyflwyniadau a sgyrsiau diddorol ynglyn â’r system fwyd ar draws y sir. Meddai Augusta Lewis, Cydlynydd Bwyd…
-
Gweini ysgewyll lleol ar Ddydd Nadolig yng Nghartrefi Gofal Sir Gaerfyrddin
Bydd ysgewyll a gafodd eu tyfu ar fferm yn Llanarthne yn cael eu danfon i holl gartrefi gofal Cyngor Sir Caerfyrddin er mwyn i’r preswylwyr eu mwynhau ar Ddydd Nadolig. Cafodd yr ysgewyll eu tyfu’n organig, eu cynaeafu a’u prosesu ar Fferm Bremenda Isaf Cyngor Sir Caerfyrddin fel rhan o…

Encouraging Children’s Cooking Skills
We’re working with Food Sense Wales to develop new local agro-ecological supply chains into schools – so our children can enjoy locally grown fresh vegetables at lunchtimes.