Projects

Hyfforddiant sgiliau maeth i weithwyr cymunedol / gweithwyr iechyd proffesiynol

Mae Tîm Deieteg Gwella Iechyd Hywel Dda yn darparu hyfforddiant sgiliau maeth i weithwyr cymunedol fel nyrsys meithrin, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr gofal, cynorthwywyr addysgu, gwirfoddolwyr a llawer mwy. Eu nod yw gweithio gyda gweithwyr cymunedol i ddatblygu sgiliau bwyd a maeth yng ngwaith bob dydd y rhai sydd mewn cysylltiad rheolaidd â grwpiau cymunedol ac sy’n deall anghenion pobl leol orau.

Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol

Lefel 2

Os ydych chi’n gweithio gydag unigolion, teuluoedd neu grwpiau cymunedol ac yn awyddus i drosglwyddo negeseuon bwyd a maeth cyson sy’n seiliedig ar dystiolaeth i eraill ac i gyflwyno cyrsiau sgiliau bwyd a maeth achrededig lefel 1, dyma’r cwrs i chi! Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ym meysydd bwyd a maeth ac yn rhoi syniadau ac adnoddau i chi eu defnyddio gyda grwpiau cymunedol i’w cefnogi i fwyta’n dda.

Mae 10 sesiwn, a gyflwynir fel arfer fel un sesiwn yr wythnos am 10 wythnos. Fodd bynnag, gellir cyflwyno cyrsiau mewn nifer o wahanol ffyrdd yn ôl yr angen.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am gynnwys y cwrs.

Mae’r cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol wedi’i osod ar lefel dau ac mae’n werth tri chredyd (30 awr ddysgu dan arweiniad). Mae achrediad yn dangos lefel y dysgu rydych wedi’i gyflawni ac i gael credyd mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod wedi bodloni’r holl feini prawf asesu ar gyfer yr uned. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am faeth, nid oes unrhyw arholiadau na thraethodau i boeni amdanyn nhw, ond i brofi eich bod wedi bodloni’r meini prawf asesu bydd gofyn i chi gwblhau portffolio o dystiolaeth ar gyfer asesu. Mae mynychu’r sesiynau hefyd yn rhan bwysig o’r asesiad.

Bydd tiwtor y cwrs yn eich cefnogi gyda phob agwedd ar y cwrs, a bydd cymorth ar gael ar ôl y cwrs i’r rhai sydd am roi eu dysgu ar waith e.e. i weithredu a bodloni elfen bwyd a maeth y Cynllun Ysgolion Iach a’r Wobr Ansawdd Genedlaethol; i gyflwyno’r sesiynau addysg maeth Bwyd a Hwyl; i ddarparu rhaglenni Bwyd Doeth am Oes neu Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd yn y gymuned, neu i gyflwyno ac asesu’r cyrsiau Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol lefel 1 achrededig, Dechrau Coginio neu Dewch i Goginio.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu un o’r cyrsiau hyn neu os ydych yn gweithio i sefydliad sydd am sefydlu cwrs Sgiliau Maeth Lefel 1 am Oes, cysylltwch â thîm Dieteteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 01267 227 067 neu e-bostiwch [email protected]  am ragor o fanylion.

Apiau Defnyddiol

Mae yna hefyd rai Apiau am ddim ar gael a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

Ap Bwyd Doeth

Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd

Newyddion diweddaraf

Darllenwch y newyddion a blogs diweddaraf gan Bwyd Sir Gâr Food.

  • Grantiau Bach ar gyfer Gweithgareddau Bwyd

    Grantiau Bach ar gyfer Gweithgareddau Bwyd

    Mae Bwyd Sir Gâr Food yn cynnig chwe grant o £2,000 i ariannu gweithgareddau sy’n anelu at ddileu anghydraddoldeb, hyrwyddo cydraddoldeb, a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl. Mae’r grantiau ar gael i fudiadau cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin, ac mae’r gronfa hon wedi’i hanelu’n benodol at alluogi a chynyddu cyfranogiad…

    Darllen mwy

  • Ffrwyth ein Llafur

    Ffrwyth ein Llafur

    Yn mis Rhagfyr 2024, cynhaliwyd digwyddiad yn yr Egin, Caerfyrddin i ddathlu gwaith Bwyd Sir Gâr ar draws y flwyddyn. Dan arweiniad Adam Jones (Adam yn yr Ardd), cafwyd diwrnod llawn o drafodaethau, cyflwyniadau a sgyrsiau diddorol ynglyn â’r system fwyd ar draws y sir. Meddai Augusta Lewis, Cydlynydd Bwyd…

    Darllen mwy

  • Gweini ysgewyll lleol ar Ddydd Nadolig yng Nghartrefi Gofal Sir Gaerfyrddin

    Gweini ysgewyll lleol ar Ddydd Nadolig yng Nghartrefi Gofal Sir Gaerfyrddin

    Bydd ysgewyll a gafodd eu tyfu ar fferm yn Llanarthne yn cael eu danfon i holl gartrefi gofal Cyngor Sir Caerfyrddin er mwyn i’r preswylwyr eu mwynhau ar Ddydd Nadolig. Cafodd yr ysgewyll eu tyfu’n organig, eu cynaeafu a’u prosesu ar Fferm Bremenda Isaf Cyngor Sir Caerfyrddin fel rhan o…

    Darllen mwy

Llysiau

We’re working with Food Sense Wales to develop new local agro-ecological supply chains into schools – so our children can enjoy locally grown fresh vegetables at lunchtimes.