
Digwyddiadau
Meithrin Amrywiaeth
Ymunwch â Tenesia a Danny o Earth to Earth Organics yn Mremenda Isaf ar gyfer un o ddau ddigwyddiad arbennig i ddathlu amrywiaeth yn Sir Gâr.

- This digwyddiadau has passed.
Mae’r digwyddiadau yma yn bwriadu creu cymuned gynhwysol a chroesawgar o gwmpas tyfu, coginio a rhannu bwyd yn Fferm Bremenda Isaf ac ar draws y sir.
Byddwn yn gofyn ‘sut allwn ni greu cymuned fwyd sy’n dathlu’r amrywiaeth yn Sir Gâr?’ Bydd y digwyddiad yn cynnwys taith o’r fferm, cyfle i rannu straeon a meddwl am sut allwn ni greu system fwyd cyfrifol byd eang a lleol. Bydd cyfle i gymdeithasu gyda’n gilydd hefyd.
Ar ben hyn byddwn yn cael cinio iachus, organic, tymhorol gan Deri Reed o Cegin Hedyn. Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim wedi ei arniannu gan Gronfa Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Nifer cyfyngedig o lefydd a rhaid archebu lle.
Bydd angen gwisgo dillad cynnes ac esgidiau sy’n dal dŵr. Bydd y digwyddiad yma tu fas ac mewn ysgubor heb wres. Nid yw’r digwyddiadau yma yn addas ar gyfer plant.